Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 25 Medi 2019
Amser:
09.29 -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5759
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Angela Burns AC Siân Gwenllian AC David Rees AC |
Tystion: |
Alyson Thomas,
Prif Weithredwr, Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Margaret Rooney, Arolygiaeth Gofal Cymru Dr Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Stuart Fitzgerald, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Helen Mary Jones AC a Lynne Neagle AC.
1.3 Dirprwyodd Siân Gwenllian AC ar ran Helen Mary Jones AC.
2.1 Gwnaeth Cadeirydd y Bwrdd ddatganiad agoriadol.
2.2 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gynghorau Iechyd Cymuned.
2.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Jayne Bryant AC fod ei mam yn aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan.
2.4 Cytunodd y Cynghorau Iechyd Cymuned i ddarparu tystiolaeth atodol ar yr hawl i ymateb i sylwadau, ac i roi enghreifftiau o sut y mae'r broses hon yn gweithio'n ymarferol ar hyn o bryd.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ffordd o ymdrin â’r sesiwn dystiolaeth, a chytunodd arno.